Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2015
Amser: 09.07 -
11.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3286
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Andrew RT Davies AC (yn lle Mohammad Asghar (Oscar) AC) Alun Ffred Jones AC (yn lle Jocelyn Davies AC) |
Tystion: |
Langley Davies, South Wales Land Developments |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Vaughan Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru) Alistair McQuaid (Swyddfa Archwilio Cymru) Nick Tyldesley (Prisiwr Dosbarth) Mike Usher (Swyddfa Archwilio Cymru) |
Trawsgrifiad
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Roedd Andrew R T Davies yn dirprwyo ar ei ran.
1.3 Esgusododd Jocelyn Davies ei hun o dan Reol Sefydlog 18.8. Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan.
1.4 Roedd Sandy Mewies am ddatgan buddiant fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad ac nid oedd yn bresennol ar gyfer eitem 2.1 ac eitem 6.
1.5 Mae’r datganiadau o ddiddordeb a wnaed yn y cyfarfod ar 12 Hydref yn berthnasol i’r cyfarfod hwn.
1.6 Croesawodd y Cadeirydd Nur Saleh, o gwmni llywodraethu Global Partners, sy’n dysgu am weithrediad y Cynulliad Cenedlaethol.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Bu’r Pwyllgor yn holi Langley Davies, Cyfarwyddwr South Wales Land Developments Limited, fel rhan o’r ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.
4.1 Derbyniwyd y cynnig a chafodd ei ymestyn i gwmpasu eitem 1 ar gyfer y cyfarfod ar 8 Rhagfyr 2015.
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, nis cyrhaeddwyd yr eitem hon.
7.1 Bu’r Aelodau’n trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2016 ond gofynnodd am ragor o fanylion am yr ymchwiliad posibl i Faes Awyr Caerdydd.